Gweithdai Llunio Teils / Tile Making Workshops

Lluniau’r gweithdy cyntaf / Photos of first workshop

YN RHAD AC AM DDIM! GWEITHDAI CREU TEILS SERAMIG EFO LYN O PENMON POTTERY

Dewch i roi cynnig ar greu teils seramig er mwyn dathlu hanes y pentref. Bydd y teils clai’n cael eu casglu ynghyd i greu stori Rhiwlas ac yn cael eu harddangos yn Neuadd y Pentref.

Does dim angen unrhyw brofiad ymlaen llaw, dim ond cariad tuag at eich pentref.  Bydd yr holl ddeunyddiau, yr offer a’r clai, a’r hyfforddiant am ddim. Mae croeso i rai o bob oed a gallu. Peidiwch a bod ofn dod.

Galwch heibio am banad a rhannwch eich atgofion am fywyd yn Rhiwlas, a’r bobol a’r mannau yr hoffech chi eu gweld ar y panel gorffenedig. 
Trefnwyd tri gweithdy, i’w cynnal yn Neuadd y Pentref fel a ganlyn:

Dydd Sadwrn Creu Teils: 5/11/22 11am – 3pm
Dydd Sadwrn Creu Teils: 12/11/22 11am – 3pm;
Dydd Sadwrn Gweithdy gwydro: 26/11/22 10am – 4pm

Ym mhob un bydd lluniaeth ysgafn ar gael yn rhad ac am ddim!
Mae croeso ichi alw i mewn i unrhyw un o’r gweithdai, eu mynychu i gyd, neu dim ond un neu ddau ohonyn nhw.

Os dymunwch, gallwch glicio yma i fynegi diddordeb neu ffoniwch Elfyn Jones-Roberts on 07786 554890

Soniwch wrth eich ffrindiau a’ch cymdogion am y digwyddiadau yma os gwelwch yn dda.


Ariannwyd y gweithdai hyn yn garedig iawn trwy grant i’r Neuadd gan Mantell Gwynedd